Eleni rydym wedi lawnsio gwobrau newydd sbon – Gwobrau Gerddi.
Mae ein Wardeiniaid ni o amgylch eich stadau ni yn ddyddiol ac yn gweld rhai gerddi arbennig. Mae garddwyr talentog iawn ymhlith ein tenantiaid.
Rydym wrth ein boddau yn gweld rhai o’u lluniau a’r balchder sydd gan rhai ohonoch yn eich gerddi.
Y person cyntaf i ennill y wobr oedd tenant o fflat ym Mhwllheli, fel dachi’n gweld mai wedi gwneud y gora o’i gardd a wedi creu man arbennig i’w hyn i fwynhau’r haul. Does dim angen gardd enfawr i ennill y gwobrau gerddi.
Mae’n wych gallu cefnogi busnesau lleol trwy’r gwobrau, gobeithio caiff y tenant fudd mawr o wario ei thocyn anrheg yng Nghanolfan Garddio lleol Tyddyn Sachau i barhau gyda’i garddio.
Yr ail berson i ennill y wobr ydy Mrs Sarah Hughes, mai wedi byw yn ei chartref ers 1962 ac mae’r ardd yn werth ei weld ganddi.
Edrych ymlaen i rannu mwy o enillwyr efo chi dros yr Haf.