Yn ddiweddar mae Mr Fawcett wedi cael problemau iechyd sydd wedi golygu nad oes modd iddo edrych ar ôl ei ardd fel yr oedd yn arfer gwneud. Mae Wynne o’n tîm Cynnal a Chadw ac ein Warden Arwel wedi cyd-weithio i drefnu diwrnod i dacluso’r ardd i Mr Fawcett.
Maent wedi tacluso y drain a’r tyfiant oedd wedi mynd yn ormod i Mr Fawcett ac fel y gwelwch o’r lluniau mae’r gwahanaieth yn syfrdanol! Bellach mae gan Mr Fawcett le taclus iddo allu eistedd yn yr haul. Mae Mr Fawcett yn ddiolchgar ofnadwy i Wynne ac Arwel am y trawsnewidiad yma i’w ardd.