Site search button

Hyfforddai Tai

Cyfle gwych i ymuno gyda ni.

Efallai eich bod chi ar fin gorffen yr ysgol neu wedi gorffen a ddim yn siwr beth yw’r cam nesaf i chi.

Nid pawb sydd awydd mynd i’r Brifysgol, ond os hoffech chi weithio ym myd Tai a pharhau i weithio tuag at gymwysterau- dyma’r swydd i chi.

Mae’r cynllun Hyfforddai Tai yn rhoi cyfle i ddau berson weithio gyda ni am gyfnod o ddwy flynedd gan gael blas o wahanol agweddau i’r busnes, er enghraifft:

  • rhent
  • gosod
  • tai fforddiadwy
  • gwasanaeth cwsmer
  • datblygiad busnes
  • cymunedol

Gwyliwch y fideo am fwy o wybodaeth.

Cookie Settings