Yn ddiweddar, fe aeth un o’n is-gontractwyr, Hankinson, allan i ymweld ag Ysgol yr Hendre yn Nghaernarfon, er mwyn dosbarthu llyfrau gweithgaredd adeiladu a thegannau offer adeiladu am ddim i’r plant yn y dosbarth derbyn.
Roedd hyn wedi ei drefnu fel un o’r sawl ymrwymiad gwerth cymdeithasol sydd gan Hankinson ar gyfer y contract maen’t wedi ei ennill i uwchraddio rhai o’n stoc ni, sydd ger yr ysgol.
Mae Ceri Ellis-Jackson, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol, yn gweithio’n agos gyda’r contractwyr er mwyn sicrhau bod y gwerth ychwanegol yma’n cael ei greu ar gefn ein gwariant, a dywedodd hi:
“Mae Hankison wedi gwneud ymdrech arbennig er mwyn ceisio sicrhau bod trigolion y cymunedau lle mae nhw’n gweithio yn cael gwerth ychwanegol allan o’r contract yma ers iddynt gychwyn tua deufis yn ol. ‘Da ni yma yn Adra wedi gweithio hefo nhw i gyfieithu’r llyfr gweithgaredd dan sylw, o’r Saesneg i’r Gymraeg, fel bod plant ein cymunedau ni hefyd yn medru ei fwynhau. Y gobaith ydi bod y llyfryn am addysgu’r plant am wahanol ddeunyddiau ac offer adeiladu, ac efallai hyd yn oed sbarduno rhai ohonynt i feddwl am fynd ‘mlaen i gael gyrfa ei hunain mewn adeiladu rhyw ddiwrnod”