Site search button

Lansio Academi Adra

Roedd hi’n Wythnos Prentisiaethau Cymru ar  08 Chwefror 2021 ac rydan ni wedi lansio ein academi newydd. Gyda’r nod o gefnogi mwy na 60 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at  gyfleoedd gwaith ar draws gogledd Cymru erbyn 2022.

Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac ehangu opsiynau cyflogadwyedd drwy

  • brentisiaethau
  • lleoliadau gwaith
  • lleoliadau graddedig
  • Cynlluniau hyfforddi

Rydym yn dechrau ein dau leoliad mis yma fel rhan o’r Cynllun Kickstart cenedlaethol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn risg o fod yn ddi-waith yn hirdymor.

Gethin

Rydym yn cyflwyno cyfleoedd i’w cwsmeriaid drwy’r gwasanaethau y maen nhw’n rhedeg, buddsoddiad uchelgeisiol a’u rhaglen ddatblygu. Mae’r ddau leoliad gwaith cyntaf yn cynnwys datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmer o fewn ein Canolfan Alwadau.

Gweithio gyda partneriaid

Wrth weithio hefo partneriaid drwy bartneriaeth Clarion Housing a thrwy’r cynllun Kickstart, bydd lleoliadau gwaith yr ydym yn eu cynnig yn:

  • datblygu sgiliau trosglwyddadwy i bobl
  • ar gyfer siaradwyr Cymraeg a fydd yn eu cynorthwyo i gynyddu eu cyflogadwyedd a darparu profiad gwaith gwerthfawr,

Y nod yw cynorthwyo pobl sy’n cymryd rhan i ddatblygu tuag at gyflogaeth tymor hir hefo ni Adra, a chyflogwyr eraill o fewn yr ardal.

Fel rhan o’n ymrwymiad i greu cyfleoedd i’w cwsmeriaid, rydym wedi cyflogi pedwar prentis newydd, un trydanol, un plymiwr, a dau beintiwr ac addurnwr o fewn eu tîm Trwsio. Gan ychwanegu at y nifer o brentisiaid sy’n gweithio o fewn eu rhaglen rheoli asedau a’u safleoedd adeiladu. Mae hyn oll yn rhan o’n prosiect sgiliau a chyflogadwyedd, Academi Adra.

Rydym hefyd wedi datblygu rhaglen hyfforddai tai. Maen nhw am fod yn recriwtio dau hyfforddai arall yn ystod yr wythnosau nesaf i ddysgu am reoli tai, gofal cwsmeriaid a chefnogi tenantiaid i gadw eu tenantiaeth. Byddwn hefyd yn cynnig pedwar cyfle am leoliad gwaith graddedig yn ystod 2021/22.

Mae Caleb Khan yn astudio ar gyfer Lefel 2 City & Guilds, Diploma NVQ mewn Gorffeniadau Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu) gyda Grŵp Llandrillo Menai. Wrth astudio’r cwrs yma mae’n cael hyfforddiant ymarferol wrth weithio fel prentis hefo ni.

Dywedodd Caleb o Gaernarfon: “Mae Adra wedi rhoi cyfle gwych i fi ddatblygu fy sgiliau fel prentis, gweithio hefo addurnwr a pheintiwr profiadol yn nhai Adra. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfle yma yn fawr a hoffwn ddiolch i Adra am eu cefnogaeth.”

Mwy o wybodaeth

Am fwy o fanylion gwaith gan gynnwys lleoliadau gwaith, rhaglenni hyfforddi a phrentisiaethau, cysylltwch hefo Elin Williams yma yn Adra os gwelwch yn dda drwy ffonio 0300 1238084  neu e-bostio:  elin.willams@adra.co.uk

Neu cwblhewch y ffurflen yma

Cookie Settings