Site search button

Llwyddiant Academi Adra

Gall Academi Adra gynnig cymorth a phrofiadau i helpu i ddatblygu eich sgiliau ac i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth.

 

Mae Jess a Lauren, ein Prentisiaid Tai newydd wedi cael cyfleoedd drwy Academi Adra.

 

Mae’r ddwy yn denantiaid i Adra ac wedi cychwyn gweithio gyda ni yn ddiweddar ar gynllun prentisiaeth dwy flynedd. Mae Jess a Lauren wrthi yn cwblhau cymhwyster CIH Level 2 Certificate in Housing Practice yn ystod eu prentisiaeth.

“Rwy’n mwynhau dysgu wrth weithio tuag at fy nghymhwyster. Ar y funud dwi hefo’r tîm gosod tai sydd wedi bod yn brofiad anhygoel. Dwi’n ddiolchgar am y cyfle ac yn edrych ymlaen at brofiadau newydd hefo Adra trwy’r cwrs yma.“ – Jess

“Mae’r profiad hyd at rwan wedi bod yn bositif iawn, rwyf wedi elwa cymaint ohoni hyd yn hyn. Rwyf wedi mwynhau gweithio ym mhob adran yn fawr ac wedi dysgu llawer. Mae’r gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych ac edrychaf ymlaen at gwblhau fy nghymhwyster.“ – Lauren

 

Mae Thomas wedi bod yn gweithio fel Swyddog Gweinyddol Adnoddau hefo’n tim cynllunio gwaith ar gynllun gwaith 16 wythnos.

 

“Hoffwn ddiolch i Adra am roi’r cyfle yma i brofi y gallaf fod yn aelod gwerthfawr o staff a diolch yn fawr i’r croeso dwi di gael gan yr tîm cyfan yn Adra.“ – Thomas

Cian Halliday

Daeth Cian, o Lanrug, ar brofiad gwaith gyda’n Tîm Trwsio. Dros yr wythnos fe greodd Cian argraff dda ac fe gafodd gynnig gwaith cyflogedig llawn amser hefo Adra.

 

 

Pa gyfleoedd allwch chi eu cynnig?

Gan weithio gyda’n partneriaid, gallwn gynnig profiad gwaith, lleoliadau gwaith, prentisiaethau, hyfforddeiaethau, cyfleoedd gwirfoddoli a llawer mwy. Rhowch wybod i
ni beth fyddai gennych ddiddordeb ynddo a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r bobl iawn.

Os ydych yn bwriadu gwneud rhai newidiadau yn eich llwybr gyrfa gallwn eich cefnogi. Gallai hyn fod trwy eich helpu chi chwilio am gyfleoedd:

  • cyflogaeth
  • hyfforddiant
  • cychwyn eich busnes eich hun
  • magu hyder

Rydym eisiau helpu i gynnig cyfleoedd i’n cwsmeriaid trwy ddarparu cefnogaeth i chi fel y gallwch:

  • fod yn hyderus wrth chwilio am waith
  • dod o hyd i brofiad gwaith
  • gwirfoddoli
  • datblygu sgiliau newydd

Gall fod yn amser anodd a heriol i chi ond mae help ar gael.

 

Cookie Settings