Site search button

Mae eich Credyd Cynhwysol yn newid, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod

Mae eich Credyd Cynhwysol yn newid. Bydd y cynnydd dros dro o £20 yr wythnos yn stopio ar ôl Medi 2021, sy’n golygu byddwch yn cael £20 yn llai bob wythnos a £86.67 yn llai y mis. Rydym yma i’ch helpu i baratoi.

Ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau pandemig COVID-19, cyflwynwyd codiad dros dro o £20 yr wythnos gan y Llywodraeth i godiad dros dro Credyd Cynhwysol (CC). Cynyddodd y cynnydd hwn y lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol £86.67 bob mis.

Os ydych yn hawlio CC ar hyn o bryd, dylech fod yn ymwybodol bod y swm hwn yn un dros dro a’i fod wedi’i gyflwyno fel cymorth ychwanegol i hawlwyr yn ystod cyfnod heriol pandemig COVID-19.

Ar ôl mis Medi, bydd y swm ychwanegol yn dod i ben ac mae’n bwysig eich bod chi’n paratoi at hynny.

Mae nifer o’n tenantiaid yn derbyn CC ac efallai na fydd llawer yn gwybod mai dros dro yw’r codiad hwn. Os ydych yn rhywun sydd ond wedi hawlio CC am y tro cyntaf ers mis Ebrill 2020, efallai na fyddwch hyd yn oed yn gwybod bod yr arian a gewch yn cynnwys y cynnydd dros dro.

Nid ydym eisiau dychryn na phoeni unrhyw un, ond mae hyn yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar bawb sy’n hawlio CC. Rydym yma i’ch helpu i baratoi. Gwiriwch eich datganiadau talu Credyd Cynhwysol gan y gwelwch mai dros dro yw’r swm rydych yn ei dderbyn.

Os ydych yn denant i ni yma yn Adra sy’n hawlio CC a hoffech gael cymorth i baratoi ar gyfer y newid hwn, mae ein tîm Rhent ac Incwm yma i chi. Gallwch gysylltu â nhw: 0300 123 8084 / rhent@adra.co.uk Rydym yn annog chi i gysylltu am gymorth. https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol

Cookie Settings