Mae’n Ddiwrnod Amser i Siarad heddiw ac rydym yn gofyn i bawb yng Nghymru i gael sgwrs am iechyd meddwl.
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli – ac yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom. Ond mae pobl yn dal i fod ofn trafod iechyd meddwl, gan olygu bod rhai pobl yn teimlo cywilydd neu’n unig.
Y thema ar gyfer 2022 yw anelu at helpu cymunedau ar hyd a lled y wlad i gynnal mwy o sgyrsiau am iechyd meddwl fwy nag erioed. Mae gan sgwrs fach am iechyd meddwl y pŵer i wneud gwahaniaeth mawr. Beth am i ni ddechrau siarad, gyda’n gilydd, gallwn ni ddod â stigma iechyd meddwl i ben.
Felly, gwnewch rhywbeth i helpu eich iechyd meddwl chi ac eraill heddiw – hyd yn oed os ydi’n golygu anfon neges text i ffrind yn gofyn os ydyn nhw eisiau dod draw am baned neu mynd am dro – neu hyd yn oed sgwrs dros y ffôn neu face time.
Mae siarad am iechyd meddwl yn lleihau’r stigma ac yn helpu i greu cymunedau cefnogol lle y gallwn ni siarad yn agored am iechyd meddwl a chael ein grymuso i ofyn am help pan fydd ei angen arnon ni.
Dyna pam mae dechrau’r sgwrs am broblemau iechyd meddwl mor bwysig – drwy siarad amdanyn nhw, gallwn ni helpu ein hunain ac eraill.
Sut bynnag y gwnewch chi hynny, siaradwch am iechyd meddwl.