Site search button

Mwy o enillwyr Sêr Cymunedol

Mwy o ser cymunedol

Rydym wedi cyflwyno rhai o’n enillwyr Sêr Cymunedol yn barod mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yna fwy o enillwyr.

Mae’n braf gweld ein cymunedau ni yn dod at eu gilydd fel hyn yn ystod blwyddyn galed iawn.

 

Paul Sweeney

paul sweeny ser cymunedol

Mae Paul yn byw yn Abermaw, ar ddechrau’r cyfnod clo, rhoddodd ei rif ffon i’r trigolion eraill yn yr uned tai cefnogol lle mae’n byw, gan eu cynghori i gysylltu os oedd angen help arnynt.

Mae wedi helpu gyda siopa i’r preswylwyr a oedd yn cysgodi, wedi casglu presgripsiwn a hyd yn oed wedi helpu gyda cherdded cŵn.
Er iddo fynd i’r ysbyty i gael triniaeth yn ystod y flwyddyn, parhaodd i gefnogi eraill.

Mae’n parhau i fod yn help enfawr i’w cgymdogion, a byddai nifer ohonynt wedi cael trafferth heb ei gefnogaeth. Mae ei agwedd bositif a hapus wedi helpu i godi hwyliau pawb yn ystod cyfnod anodd iawn.

 

Dawn Lynne-Jones

dawn lynne - ser cymunedol

Mae Dawn wedi arwain a chymeryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau gwirfoddol dros y 12 mis diwethaf, sydd wedi bod o fudd i gannoedd o bobl yng Nghaernarfon yn ystod y pandemig.

Mae rhai o’r prosiectau a’r gweithgareddau y mae Dawn wedi bod yn rhan ohonynt yn cynnwys darparu gwasanaeth siopa a chasglu presgripsiwn i 150 o drigolion bregus, trefnu te prynhawn fel sypreis i 200 o unigolion oedd yn cysgodi

a hefyd cynllun lle dosbarthwyd gemau, gweithgareddau a danteithion i bobl ifanc ac oedrannus yn ei chymuned – prosiectau oedd yn helpu brwydro yn erbyn unigrwydd a gwella lles.

Mae Dawn hefyd wedi bod yn rhan o’r Prosiect Fareshare lleol – gan ddosbarthu bwyd dros ben i’r rhai mewn angen a hefyd cynllun ailgylchu dillad. Diolch Dawn ti’n andros o weithgar yn dy gymuned, mae dy waith gwirfoddol wedi gnweud gwahaniaeth enfawr i dy gymuned.

 

Brianna Owen

brianna owen ser cymunedol

Mae Brianna, 11 oed, wedi bod yn hynod o brysur dros y flwyddyn diwethaf yn helpu eraill yn ei chymuned a tu hwnt.
Yn ystod y cyfnod clo, bu Brianna yn creu scrub bags a masgiau i weithwyr NHS, gofalwyr a’r heddlu.

Hefyd yn ystod y flwyddyn, mae hi wedi dosbarthu nwyddau molchi i gartrefi henoed yng Nghaernarfon, creu pecynnau gofal i deuluoedd oedd yn cyrraedd yr ysbyty ar frys, anfon pecynnau gofal

i filwyr dramor ag hefyd cefnogi amryw o elusennau. Bu hefyd yn gwirfoddoli i lanhau mynwent Llanbeblig yn y dref.
Brianna hefyd wedi cyd-weithio yn agos gyda’r Lee Rigby Foundation yn dosbarthu wyau Pasg a pecynnau gofal i’r ysbytai. Diolch o galon am dy gyfraniad Brianna.

 

A dyna ni am y tro.

Cofiwch fod dal modd enwebu pobl arbennig o fewn eich cymunedau chi am wobr trwy ein gwefan.

Enwebu rhywun i fod yn seren cymunedol

 

 

Cookie Settings