Site search button

Neges o ddiolch gan un o’n cwsmeriaid

Mae hi mor braf derbyn negeseuon cadarnhaol gan ein cwsmeriaid.

Rydym yn falch iawn o dderbyn negeseuon gan gwsmeriaid sydd wedi bod wir angen ein cymorth a chefnogaeth ac sydd wedi bod mewn sefyllfa fregus. Rydym yn ymfalchio mewn gofalu a chefnogi ein cwsmeriaid.

Dyma neges a gafodd Kathleen Hughes, ein Swyddog Tai Cefnogol yma’n Adra. Rhoddodd Kath gefnogaeth i un o’n cwsmeriaid symud tŷ, a chael grant i gael nwyddau gwyn fel oergell ac ati.

Dyma’r neges a gawsom:

“Rwyf wedi bod yn bwriadu i gysylltu â chi gan fy mod eisiau dweud diolch yn fawr iawn am bopeth rydych chi wedi’i wneud i mi dros yr wythnosau diwethaf . 

Popeth a ddywedsoch oeddech am wneud, rydych wedi’i gyflawni ac mae’ch caredigrwydd a’ch cefnogaeth wedi dilyn, allwn i ddim fod wedi gwneud hyn hebddoch chi. 

Cyrhaeddodd fy nwyddau gwyn heddiw ac rydw i wrth fy modd gyda nhw. Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar nag ydw i ar hyn o bryd. Rwy’n ddiolchgar am eich cefnogaeth a’ch caredigrwydd tuag ataf.” 

Os ydych yn denant neu’n gwsmer i Adra ac yn gweld pethau’n anodd neu angen cefnogaeth neu chymorth, gallwch gysylltu hefo ni ar 0300 123 8084 neu ebostio ymholiadau@adra.co.uk a gall aelodau o’r tîm ganolfan gwasanaeth cwsmer eich cyfeirio at gefnogaeth tenantiaeth neu gwblhau ffurflen ar eich rhan.

 

Cookie Settings