Site search button

Noson arbennig o wobrwyo Yr Uchel Siryf 2019-2020

Noson arbennig wythnos diwethaf yn dathlu noson ‘wobrwyo Yr Uchel Siryf 2019-2020′

Yn anffodus oherwydd covid fe gafodd y noson ei chynnal 16 mis yn
ddiweddarach.

Llongyfarchiadau mawr i CLWB Y COFIS am ennill tlws a wedyn y cwpan am y prosiect orau yn y gymuned sy’n cael ei redeg gan Adra a Thîm Plismona lleol Caernarfon.

Dywedodd yr arolygydd Trystan Bevan:
“Rydw i’n yn hynod falch o’m Tîm Plismona Bro yma yng Ngogledd Gwynedd am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’r prosiect hwn yn ogystal â’r gwaith partneriaeth gydag Adra”
Dywedodd Geraint Jones ein Rheolwr Gwasanaethau Bro:
“Mae cynllun Dreamscheme yn rhedeg ar Ward Peblig ers rhai blynyddoedd bellach, a mae Adra yn falch o fod yn chwarae rhan allweddol yn ei ddarparu efo Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r Wobr yn un haeddiannol iawn i gydnabod ymroddiad ein Swyddogion ni a’r Heddlu am yr amser maent yn ei roi i bobl ifanc yr ardal. Gobeithio eu bod wedi mwynhau.”

 

.

Cookie Settings