Mae gogledd Cymru wedi gweld nifer o stormydd garw dros y misoedd diwethaf, a dyma bethau gall bawb wneud er mwyn paratoi ar eu cartrefi ar gyfer mwy.
Tu allan
- Gwnewch siŵr fod eitemau fel trampolinau, biniau a dodrefn gardd wedi cael eu diogelu
- Cymerwch olwg ar y llechi to. Oes ‘na rhai wedi cracio neu’n rhydd ac angen eu newid? Os gwelwch broblem, cysylltwch gyda’n Canolfan Gyswllt ar 0300 123 8084
- Ydi hi werth cadw bagiau tywod rhag ofn? Gallent fod yn ofnadwy o ddefnyddiol mewn llifogydd, yn enwedig os yn byw yn agos i afon
Tu mewn
- Paratoi pecyn toriad pŵer. Mae’r pecyn yn cynnwys tortsh, radio, matsys, canhwyllau a rhestr o rifau ffon defnyddiol
- Cau ffenestri a drysau allanol
- Dad-blygio eitemau trydanol anhanfodol gan fod mellt yn gallu achosi ymchwyddiadau pŵer
- Oes digon o drydan a nwy yn y meter os nad ydych yn gallu gadael y tŷ oherwydd y tywydd garw?
- Cadw ychydig o fwyd annarfodus yn y cwpwrdd fel bwydydd tin a llefrith UHT
Byddwch yn ymwybodol o gymdogion bregus yn ystod y cyfnod hwn.