Site search button

Paratoi am dywydd garw

Llun o gymylau stormus

Mae gogledd Cymru wedi gweld nifer o stormydd garw dros y misoedd diwethaf, a dyma bethau gall bawb wneud er mwyn paratoi ar eu cartrefi ar gyfer mwy.

Tu allan 

  • Gwnewch siŵr fod eitemau fel trampolinau, biniau a dodrefn gardd wedi cael eu diogelu
  • Cymerwch olwg ar y llechi to. Oes ‘na rhai wedi cracio neu’n rhydd ac angen eu newid? Os gwelwch broblem, cysylltwch gyda’n Canolfan Gyswllt ar 0300 123 8084
  • Ydi hi werth cadw bagiau tywod rhag ofn? Gallent fod yn ofnadwy o ddefnyddiol mewn llifogydd, yn enwedig os yn byw yn agos i afon

Tu mewn 

  • Paratoi pecyn toriad pŵer. Mae’r pecyn yn cynnwys tortsh, radio, matsys, canhwyllau a rhestr o rifau ffon defnyddiol
  • Cau ffenestri a drysau allanol
  • Dad-blygio eitemau trydanol anhanfodol gan fod mellt yn gallu achosi ymchwyddiadau pŵer
  • Oes digon o drydan a nwy yn y meter os nad ydych yn gallu gadael y tŷ oherwydd y tywydd garw?
  • Cadw ychydig o fwyd annarfodus yn y cwpwrdd fel bwydydd tin a llefrith UHT

Byddwch yn ymwybodol o gymdogion bregus yn ystod y cyfnod hwn.

Cookie Settings