Site search button

Paratoi at gwblhau tendr

Ydych chi’n gwmni glanhau?
Eisiau glanhau ein swyddfeydd ni?

Bydd cyfle i ennill ein cytundeb glanhau swyddfeydd ac ardaloedd cymunedol ar gael yn fuan ar Gwerthu i Gymru.
Ond os ydych yn gweld cwblhau ceisiadau am dendr bach yn gymleth – peidiwch a phoeni.
Byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddiant AM DDIM wythnos nesa fydd yn eich rhoi ar ben ffordd.

Manylion

Webinar Tendr – ‘Paratoi ar gyfer Tendro’
Ar gyfer cytundeb gwasanaeth glanhau fydd ar gael yn fuan
15 o Ragfyr 11.00yb – 1.00yp

Bydd Busnes Cymru yn cyflwyno gweminar tendro penodol a fydd yn cynnig cymorth ac arweiniad i gyflenwyr ar baratoi ar gyfer y tendr Gwasanaethau Glanhau gydag ni.
Bydd y gweminar yn cynnwys: –
• Defnyddio GwerthwchiGymru
• Defnyddio EdendrCymru
• Pwysleisio anghenion y prynwr
• Arweiniad ar greu ymatebion o safon uchel.
• Deall model gwerthuso

I archebu lle ar y gweminar yma, cysylltwch â Busnes Cymru ar 01745 585 025 neu e-bost northwales@businesswales.org.uk neu archebwch ar-lein

Archebu lle

Bydd y gweminar yn cael ei gyflwyno at blatfform Microsoft Teams.
Byddwn yn anfon linc i chi ar ôl i chi archebu lle.

Cookie Settings