Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio gyda chwmni lleol James Cyf ar waith allanol ar ein cartrefi ym Maes Gwyndy, Trawsfynydd
a’r Glynnor, Gellilydan. Cafodd gwaith ail- doi, insiwleidio waliau allannol i wella pa mor dda mae’r cartrefi yn cadw gwres, ail-chwipio i
foderneiddio edrychiad ein cartrefi a gosod drysau a ffenestri newydd ei wneud.
Fel rhan o’r gwaith adeiladu gan James Cyf rydym yn sichrau fod y gymuned yn elwa, felly fel rhan o fudd cymunedol y cynllun yma
rhoddodd James Cyf arian i ddwy ysgol leol, sef ysgol Edmwnd Prys, Gellilydan a Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd.
Defnyddiodd Ysgol Bro Hedd Wyn yr arian i brynu potiau blodau newydd i fynd tu allan i’r ysgol a prynnodd Ysgol Edmwnd Prys offer chwaraeon
newydd, gan gynnwys gôl pêl-droed a polion i chwarae pêl fasged.
Diolch yn fawr i James Cyf am eu cyfraniad a’u gwaith arbennig ar ein cartrefi yn yr ardal.