Mae yna dipyn o ardaloedd gwyrdd o amgylch ein stad Bro Seiont yng Nghaernarfon. Yn ddiweddar mae’r trigolion wedi dod at eu gilydd i sgwrsio a rhannu syniadau sut y gallwn wneud gwell defnydd o’r ardaloedd yma.
Cafodd prynhawn hwyl ei gynnal ar y cŷd gyda Galeri, Caernarfon ar gyfer y trigolion fel rhan o gynllun Canfas.
Mae’n bwysig i ni gal barn y bobl sydd yn byw yn Bro Seiont ynglyn â’r ardaloedd gwyrdd yma, gan mai ardaloedd iddyn nhw eu mwynhau ydy nhw.
Cymerwch olwg ar y diwrnod yma:
Roedd yn braf gweld trigolion Bro Seiont yn dod at eu gilydd a cael cyfle i ddod i adnabod eu gilydd.
Cafodd pawb brynhawn bach bendigedig – diolch i chi gyd am ddod draw.
Edrych ymlaen i ddatblygu syniadau trigolion Bro Seiont a gweld y cwbwl yn dod yn fyw.
Cofiwch os oes gennych chi syniadau am beth allwn ei wneud gyda’r ardaloedd hyn, cysylltwch â ni:
Neu os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol ac angen cymorth ariannol efallai gallwch gyfle am ein grantiau cymunedol. Gwybodaeth llawn ar ein wefan Adra.