Site search button

Seren Gymunedol Marie Kirkman

Dyma ddiolch i’n Seren Gymunedol ddiweddaraf, Marie Kirkman. Dyma hi yn derbyn ei gwobr yng ngardd gymunedol Y Bala.

Mae Marie yn rhoi cyfle i blant fynd draw i’r ardd a thyfu ffrwythau a llysiau. Mae hi hefyd yn mynd i ysgolion lleol i wneud gwaith garddio ymysg nifer o bethau arbennig eraill yn yr ardal.

Mae Marie yn awyddus i ddenu mwy o wirfoddolwyr i helpu yn yr ardd, felly os oes gen ti ddiddordeb, galwa draw i’w gweld neu ffonia 07480570299.

Diolch o galon am dy waith gwerthfawr Marie, mae’r Bala yn lwcus iawn i dy gael di!

 

 

Cookie Settings