Wel mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd a dweud y lleiaf. Nifer ohonom yn hiraethu am gymdeithasu gyda pobl, ein ffrindiau, cymdogion neu deulu sydd yn byw yn bell.
Gall Technoleg helpu i lenwi’r gwagle yna.
Ond mae Technoleg yn gallu bod yn ddrud.
Dyma pam rydym yn cynnig cyfle i chi logi tabledi i’w defnyddio i fynd ar y we, i wneud galwad fideo gyda aelod o’r teulu neu ffrindiau os nad oes modd i chi eu gweld. Erbyn hyn mae yna ddosbarth i bob dim ar y wé, coginio, garddio, dysgu iaith arall. Gall mynediad i’r we agor llwyth o ddrysau newydd i chi.
Manteisiwch ar y cyfle yma fel mae Miss Roberts o Benrhyndeudraeth wedi gwneud. Mae hi wedi llogi un o’n tabledi a mae bellach yn ei ddefnyddio i gadw mewn cysylltiad gyda eraill. Peidiwch a phoeni os nad ydych yn gwybod sut i’w defnyddio gallwn eich helpu gyda hyn hefyd.
Cysylltwch gyda Charlotte trwy ffonio 0300 123 8084 neu drwy ebostio cymunedol@adra.co.uk am fwy o wybodaeth neu i wneud cais i logi tabled.