![Tafarn yr heliwr](https://cymuned.adra.co.uk/wp-content/uploads/2021/07/220865629_967691344068713_2709113873945840477_n.jpg)
Braf gweld yr adeilad ar y stryd fawr yn agor ei ddrysau unwaith eto fel menter gymdeithasol.
“Diwrnod arbennig oedd y diwrnod agored, braf iawn gweld stryd fawr nefyn wedi adfywio fel oeddi 10 mlynedd yn ol, braf gweld y gymuned yn mwynhau diolch o galon i bawb ddaeth i’r agoriad swyddogol dydd Sadwrn! Diwrnod arbennig a noson lwyddiannus dros ben Rydym wrth ein bodd bod Yr Heliwr bellach ar agor ac yn edrych ymlaen at gynnal amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yma, trwy gydol y flwyddyn”
Cefnogwyd y fenter gan dros 500 o fuddsoddwyr yn archebu cyfandaliadau a chodi dros £85,000 ag hefyd trwy amrywiaeth o grantiau gan gynnwys grant o Gronfa Buddsoddi Gymunedol Adra.
Am fwy o wybodaeth am ein Cronfa Buddsoddi Cymunedol, cysylltwch â’n Tîm Cymunedau a Phartneriaethau trwy ffonio 0300 1238084 neu cymunedol@adra.co.uk