Site search button

Tu hwnt i’r cwricwlwm – profiad gwaith gydag Adra

Images of young people on work experience with us

Braf oedd cael croesawu 10 person ifanc o ysgolion lleol draw am brofiad gwaith cyn gwyliau’r Haf.

Roedd yn bleser gallu cynnig profiadau gwahanol i bob un er mwyn rhoi blas o yrfa myd tai yn ogystal â dangos yr amrywiaeth o waith sydd yn mynd ymlaen yma yn Adra bob dydd. Roedd yn wych cael egni a brwdfrydedd pobl ifanc yn ein swyddfeydd am wythnos, pob un yn cynnig syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.

Profiadau Pobl Ifanc

Llew o Brynrefail oedd un ddaeth draw am brofiad gwaith, treuliodd amser gyda’r Tîm Cymunedol, Caffael, Wardeiniaid a staff y Ganolfan Alwadau.

“Roedd yr holl staff yn glên iawn ag yn barod i helpu. Dysgais lawer am y cwmni a faint mae nhw’n neud i’r gymuned leol ynghyd a sut mae’r cwmni yn prynu a gwerthu tai.  Rwyf wedi dysgu llawer am fy llwybr gyrfa a gweld pa fath o waith buaswn i yn mwynhau.”

Daeth Rhodri, hefyd o Ysgol Brynrefail draw i gysgodi’r Tîm Datblygu. Roedd wedi mwynhau gweld ein safleoedd newydd ni a dysgu am y broses a rheolau sydd yn rhaid eu dilyn wrth adeiladu.

Cafodd Mannon gyfle i fynd o amgylch ein stoc tai gydag ein Swyddog Cyswllt i weld sut rydym yn cyd-lynnu gwaith adnewyddu ar ein cartrefi presennol. Tra bu Jac ar brofiad gwaith gyda’n Tîm Trwsio.

Rydym yn gobeithio fod rhoi cyfleoedd fel hyn  am ddenu pobl ifanc leol i weithio gyda ni yn y dyfodol a’u bod yn cofio’r holl gyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael trwyddo ni.

Diolch o galon i’r Rheolwyr a Staff a dreuliodd amser gyda’r 6 oedd gyda ni ar brofiad gwaith a diolch i’r ysgolion , rhieni ac wrth gwrs y bobl ifanc am ddewis Adra fel lleoliad profiad gwaith eleni.

 

Cookie Settings