Site search button

Wardeniaid cymunedol

Mi gychwynodd y gwasanaeth nol yn 2007 gyda dau warden, yn bennaf yn delio gyda ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Er mwy creu cymunedau cryfach a diogel, ychwanegwyd wardeniaid newydd, un i wasanaethu ardal Meirionydd, un ar gyfer Dwyfor a’r llall ar gyfer ardaloedd gwledig yng ngogledd y sir.
Bellach mae un warden hefyd yn gweithio yn ardal y Gogledd Ddwyrain, wrth i Adra greu datblygiadau tai newydd ar draws y Gogledd.

Picture of three wardens walking through estate

Mae gwaith y wardenaid yn cynnwys elfennau o reolaeth tenantiaid, gan fod yn lygaid a chlustiau ar gyfer y cwmni.
Bydd y Wardeiniaid yn gwneud cyswllt i groesawu pob tenant newydd, ac yn egluro y byddent yn cadw cysylltiad drwy ymweliadau pellach ar 3, 6 a 9 mis, i gynnig cefnogaeth a sicrhau nad oes unrhyw broblemau yn codi efor denantiaeth.

Mae’r tim wedi trefnu a chymeryd rhan mewn diwrnodau amgylcheddol rheolaidd i wella stadau yn ogystal a phrosiectau i annog gwell iechyd meddwl a chynhwysiad cymdeithasol gan denantiaid a thrigolion o fewn ein cymunedau.

Warden going into his van

Mae gwaith partneriaeth yn ganolog i’w gwaith nhw hefyd. Mae gan pob swyddog rwydwaith o gysylltiadau o fewn Gwasanaethau fel yr Heddlu, Gwasanaeth Tan ac Achub, adrannau’r Cyngor, ysgolion a grwpiau cymunedol. Y rhwydweithiau yma sydd yn galluogi ni gyfrannu I’r Strategaeth Cymunedol.
Gyda eithriad i’r wardeiniaid sydd yn gwasanaethu Dinas Bangor a Tref Caernarfon, mae pob Warden bellach yn gweithredu amserlen “dyddiau tref” penodol, gyda galwadau, archwiliadau ac ymweliadau ystadau i gyd yn cael i gwneud ar un diwrnod mewn un ardal ble ma’n caniatau.

Cookie Settings