Site search button

Williams Homes a STEM gogledd yn ysbrydoli disgyblion

Rydym bob amser yn ceisio gweithio gyda chontractwyr lleol.

Rhai o’r rhesymau pam ein bod yn gwneud hyn yw i drio cadw swyddi’n lleol i’r bobl o fewn ein cymunedau a chadw gwerth cymdeithasol ein holl brosiectau yn lleol.
Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio gyda chwmni Williams Homes o’r Bala ar gytundeb mawr ym Maes Bleddyn, Rachub.
Fel rhan o’r gytundeb yma fe wnaethant ymweld â disgyblion yn Ysgol Tryfan yn gynharach y mis hwn er mwyn eu dysgu am STEM Gogledd.

Mae STEM Gogledd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddigsyblion ysgolion uwchradd. Mae STEM yn cyfeirio at bynciau Gwyddoniaeth, Mathemateg, Technoleg a Peirianwaith
a’r mathau gwahanol o yrfaoedd sydd i’w cael o fewn y maesydd yma.

Cymerodd y disgyblion ran mewn ymarfer ‘Tetrahedron’ i ddangos bod cynllunio, dylunio a gwaith tîm yn offer effeithiol o ran adeiladu.
Mae Penny o Williams Homes, a fynychodd y digwyddiad yn arbennig o angerddol am annog mwy o fenywod i ymuno â’r diwydiant Adeiladu.
Roedd y plant yn frwdfrydig iawn ac yn gofyn llawer o gwestiynau. Gobeithio ein bod wedi ysbrydoli ambell beiriannydd yn y dosbarth.

Diolch Williams Homes!

Cookie Settings