Site search button

Wythnos Genedlaethol Diogelu Oedolion

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Diogelu Oedolion wythnos yma 15 – 21 Tachwedd ac rydym yn falch o fod yn cymryd rhan yn yr wythnos i godi ymwybyddiaeth. Dyma gyfle i atgoffa’n hunain a’n cwsmeriaid am beth i edrych allan amdano os oes cam-drin neu esgeulstod yn digwydd.

Beth ydi Diogelu?

Diogelu yw gwarchod hawl person i gael byw yn ddiogel, yn rhydd o niwed ac esgeulustod. Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu ac mae angen i chi wybod beth yw’r arwyddion a’r peryglon, fel bod modd i chi  adrodd ar unrhyw bryderon neu amheuon sydd gennych.

Gall arwyddion posib gynnwys;

• Cam-drin corfforol – crafiadau, cleisiau, llosgiadau a sgaldiadau

• Cam-drin rhywiol – arwyddion bod yr unigolyn yn mewnblyg, yn cael trafferth cerdded neu eistedd neu newid mewn ymddygiad arferol.

• Dioddefwyr emosiynol neu seicolegol – efallai y byddant yn dangos lefelau uchel o bryder, hunan-niweidio, arwyddion o iselder neu yn erfyn sylw.

• Cam-drin ariannol neu economaidd – efallai y bydd hyn yn cynnwys rheoli sut a phryd y mae arian yn cael ei wario ar fwyd ac eitemau angenrheidiol eraill, rheoli defnydd o’u ffôn symudol, ayyb.

• Dioddefwyr esgeulustod – iechyd yn dirywio, brechau, doluriau, gwisg anaddas neu gyflwr meddygol heb ei drin.

Sut i gysylltu os ydych yn sylwi ar un neu fwy o’r rhain?

1. Ffoniwch y Gwasanaethau Brys, 999, os oes unigolyn mewn peryg ar y pryd

2. Ffoniwch ein ganolfan alwadau ar 0300 123 8084 cyn gynted â phosib i adrodd eich pryder neu amheuaeth

3. Os yw hi tu allan i oriau gwaith (rhwng 5yh a 9yb), cysylltwch â gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol perthnasol:

​​​➢ Cyngor Gwynedd: 01248 353 551

➢ Cyngor Sir Ddinbych: 0345 053 3116

➢ Cyngor Conwy: 01492 515777

➢ Cyngor Wrecsam: 0345 053 3116

➢ Cyngor Sir y Fflint: cysylltu â’r Heddlu ar 101

Cookie Settings