Site search button

Wythnos ym mywyd Swyddog Tai Cefnogol

Kath

Mae Kathleen Hughes yn un o’n Swyddogion sy’n cynnig cefnogaeth i’n tenantiaid.

Efallai ei bod hi’n wyneb cyfarwydd i lawer ohonoch chi yn ardal Bangor lle mae hi wedi’i lleoli. Ond hoffem ddod â’i swydd yn fyw i eraill sydd ddim yn ei hadnabod.

Mae ei swydd wedi’i rhannu’n ddwy rôl, mae’n gweithio tridiau’r wythnos fel Swyddog Tai Cefnogol, yn helpu tenantiaid a safleoedd cysgodol, a dau ddiwrnod fel Swyddog Cefnogi Tenantiaeth,  lle mae’n cefnogi pobl sy’n agored i niwed i aros yn eu cartrefi.

Felly, mae Kath am fynd a ni ar daith i ni gael cip olwg ar wythnos ym mywyd Swyddog Tai Cefnogol…

 

Dydd Llun

Rwy’n ymweld â thenantiaid yn ein cynlluniau cefnogol rhwng un a thair gwaith yr wythnos.

Pwrpas yr ymweliadau neu’r galwadau hyn yw sicrhau bod popeth yn iawn gyda nhw, gan eu cefnogi i leihau teimladau o unigedd, ac os nad oes ganddynt gefnogaeth deuluol, gwirio os ydynt angen unrhyw gymorth.

Gallai hyn fod:

  • yn gyngor ar beth i’w wneud â llythyrau
  • datblygu cynlluniau talu ar gyfer biliau
  • eu cefnogi i gael gafael ar fudd-daliadau ar-lein.

Gallaf hefyd helpu tenantiaid i gael addasiadau i’w cartrefi neu eu cyfeirio at ein therapydd galwedigaethol i gael asesiad o’u hanghenion. Rwy’n gweithio gyda llawer o asiantaethau eraill yn fy rôl.

Rwy’n adeiladu perthnasoedd gyda’n tenantiaid, gan ddarparu help, cefnogaeth a sicrwydd iddynt a’u teuluoedd, sy’n agwedd werth chweil o fy swydd yn fy marn i. Cael clywed cwsmeriaid yn dweud sut mae fy nghefnogaeth wedi eu helpu go iawn, pan nad oeddent weithiau’n gwybod pa ffordd i droi, sy’n rhoi’r teimlad gorau i mi.

 

Dydd Mawrth

Ar ddydd Mawrth a dydd Iau, rwy’n ceisio canolbwyntio ar gymorth tenantiaeth, cael help i breswylwyr ag anawsterau dysgu neu broblemau gyda chamddefnyddio sylweddau, drwy sicrhau mynediad at dalebau bwyd, darparu cefnogaeth i wella cyflwr eu cartref neu eu helpu i symud.

Rwy’n helpu tenantiaid i:

  • sefydlu neu gynnal tenantiaethau newydd
  • derbyn atgyfeiriadau gan iechyd meddwl neu’r gwasanaethau cymdeithasol
  • cyfeirio at feddygon teulu neu leoliadau gofal iechyd.

Gallaf gefnogi tenantiaid i gael mynediad at gronfeydd â chymorth, i brynu nwyddau gwyn, er enghraifft, neu i sefydlu biliau ynni.

Rwy’n siarad â 30 neu 40 o bobl yr wythnos ar gyfartaledd, a gwirio eu bod yn iawn. Mae datblygu perthynas dda gyda’r tenantiaid yn holl bwysig a dyma dwi wedi bod yn ei wneud dros y dair mlynedd diwethaf yn Adra. Weithiau mae gan denantiaid ffordd o fyw eitha prysur a gallaf weithio gyda hyd at saith asiantaeth wahanol sy’n gweithio i gefnogi un preswylydd, felly mae’n rhaid bod gennych sgiliau rhyngbersonol cryf.

Rwyf bob amser yn ymdrechu i gadw tenantiaid a’u teuluoedd yn eu cartref a allai, oherwydd dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, fod wedi colli eu cartref. Dwi yma i roi’r arfau iddynt  sicrhau canlyniadau cadarnhaol trwy wneud pethau eu hunain, yn hytrach na gwneud popeth drostyn nhw, gan fod angen iddyn nhw redeg eu bywydau eu hunain a’u tenantiaethau a datblygu eu hannibyniaeth.

 

Dydd Mercher

Os ydw i’n poeni am denant a’u lles, mae gen i opsiwn i’w cyfeirio at wasanaethau cymdeithasol, cael cefnogaeth ar gyfer materion iechyd meddwl, neu at Gyngor ar Bopeth am gymorth gyda hawliadau budd-dal.

Mae pob diwrnod yn wahanol – mae rhai yn dawelach nag eraill – ac nid oes trefn bendant byth gan nad ydych chi’n gwybod pa mor hir y bydd ymweliad neu alwad gyda phob tenant yn ei gymryd. Dydych chi byth yn gwybod pryd mae tenant yn mynd i alw neu anfon neges atoch gyda yn gofyn am help.

Ar gyfer pob rôl, rwy’n cynnal cyfarfodydd tîm rhithiol wythnosol, lle rydyn ni’n dod at ein gilydd ac yn trafod unrhyw faterion.

 

Dydd Iau

Gall y rôl cymorth tenantiaeth fod yn debyg mewn sawl ffordd i’r rôl tai â chymorth gan fy mod i’n gweithio gyda llawer o’r un asiantaethau, fel y Ganolfan Waith neu’r gwasanaethau cymdeithasol, ond gyda chefnogaeth tenantiaeth mae lefel y gefnogaeth yn ddwysach ac am gyfnod byr. Mae hyn oherwydd cyllid o ddwy flynedd ar y mwyaf, er prin iawn ydwi’n cefnogi tenant am fwy na blwyddyn.

Byddaf yn cysylltu â’r tenantiaid hyn o leiaf unwaith yr wythnos a byddwn yn mynd trwy pa faterion sydd ganddynt a sut y gallwn helpu. Bydd pob tenant cymorth tenantiaeth yn derbyn cymorth dwys am ychydig oriau’r wythnos i ddechrau, sy’n lleihau dros amser. Gall tenantiaid tai â chymorth dderbyn hyd at 45 munud o gefnogaeth yr wythnos, a all fod yn dri ymweliad neu galwadau byrrach neu un galwad hirach.

Yn ogystal â fy nghysylltiad â’r tenantiaid, mae gen i’r gwaith papur arferol sy’n mynd gydag ef; gall diwedd yr wythnos fod yn amser da i ddal i fyny a mewnbynnu’r data hwn, er ei fod yn waith parhaus. Mae gan bob tenant gynlluniau cymorth unigol sy’n cael eu hadolygu bob chwe mis. Ariennir fy rôl gan y Grant Cymorth Tai yng Nghymru ac rydym yn cyflwyno rhain i Lywodraeth Cymru.

Rydym yn cynnal asesiad cychwynnol lle cânt eu sgorio ar wahanol agweddau o fyw a pha gymorth a chefnogaeth sy’n ofynnol. Yna byddwn yn nodi’r hyn yr ydym am ei gyflawni, pa gymorth sydd ei angen a lle y gellir derbyn hyn.

Mae cymorth tai â chefnogaeth a thenantiaeth yn ymwneud â gwneud cwsmeriaid yn annibynnol, teimlo’n ddiogel, rheoli eu llety a chefnogi eu hiechyd corfforol a meddyliol.

 

A dyna ddiwedd wythnos gyda Kathleen. Am wythnos brysur!

Gobeithio bod hyn wedi rhoi syniad i chi o’r math o waith y mae’n ei wneud a sut mae cymaint o bobl yn elwa o’i help.

Diolch am eich holl waith caled Kath!

Cookie Settings