Site search button

Ydych chi wedi derbyn eich datganiad ysgrifenedig trwy’r post?

Grffeg - mae'r ffordd rydych yn rhentu yn newid.

Yn fuan iawn byddwn yn dechrau postio datganiadau ysgrifenedig a gwybodaeth bwysig i’n tenantiaid (deiliaid contract) presennol a ddechreuodd eu tenantiaethau (contractau) cyn y 1 o Ragfyr 2022.

Y peth pwysicaf i chi gofio ydy…does dim angen poeni.

Nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn gontract newydd, mae’n gopi ysgrifenedig o delerau ac amodau presennol eich cytundeb tenantiaeth, gan gynnwys unrhyw ychwanegiadau a/neu newidiadau gofynnol. Mae’n ofynnol i ni roi hyn i chi o dan Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 1af Rhagfyr 2022.

Efallai eich bod wedi gweld posts amdano ar ein cyfrifon cymdeithasol.

Mae hyn yn effeithio pawb trwy Gymru.

Pwrpas y Ddeddf yw symleiddio a gwella eich hawliau a chyflwr cartrefi rhent yng Nghymru.

Peidiwch a phoeni os nad ydych wedi derbyn eich copi chi eto. Mae gennym dipyn o gopïau i’w hanfon allan a mae’n cymryd bach o amser. Byddwn yn eu hanfon mewn grwpiau, wythnos ar y tro. Mae hyn yn golygu na fydd pob tenant (deiliaid y contract) yn eu derbyn ar yr un pryd.

Mae angen i ni gwblhau anfon rhain allan erbyn 31 o Fai 2023.

Ar ôl derbyn eich datganiad ysgrifenedig, nid oes angen i chi wneud dim. Darllenwch y contract i atgoffa eich hun o’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau a’i gadw mewn lle diogel.

 

Mwy o wybdoaeth

Os oes gennych gwestiwn neu eisiau mwy o wybodaeth, ewch i:

Os ydych yn poeni neu yn cael trafferth darllen y contract byddwn yn fwy na hapus i’ch helpu:

Cookie Settings