Diolch yn fawr i’n tenantiaid am y croeso yn ardal Bangor Uchaf, bore dydd Mawrth y 22ain o Awst.
Mi oedd yr ymweliad yn rhan o’n taith Ymweliadau Stad eleni.
Bob blwyddyn byddwn yn anelu i ymweld â thua 10% o’n heiddo fel rhan o’r ymweliadau. Nod yr ymweliadau yw rhoi cyfle i’n staff ac ein haelodau bwrdd gyfarfod a sgwrsio gyda’n tenantiaid yn ein cymunedau a chlywed adborth am ein gwasanaethau
Rydym hefyd wedi ymweld â thenantiaid yn Nolgellau, Penmaenmawr, Deganwy, Dyffryn Ardudwy, Ynys, Abergele, Sychnant Pwllheli, Caernarfon a Bangor eleni a’r bwriad ydi ymweld â dros 200 o’n tenantiaid eraill ym Mangor a Chaernarfon dros y misoedd nesa.
Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod a chlywed eich barn.